Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Mawrth 2025
Amser:
14.00 -
14.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14871
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Carolyn Thomas AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Joel James AS |
|
Tystion: |
|
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) |
Datganodd Luke Fletcher AS fuddiant perthnasol mewn perthynas ag Eitem 2.1 - mae wedi gweithio gyda phreswylwyr a’r prif ddeisebydd dros y blynyddoedd diwethaf ar ymgyrch Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau.
Cytunodd y Pwyllgor i: ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gadarnhau’r safbwynt o ran cais y deisebwyr am ymchwiliad cyhoeddus; ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ofyn i ba raddau yr oedd wedi edrych ar y sefyllfa yng Nghaerau a sut yr oedd hynny wedi dylanwadu ar y Llywodraeth o ran ei rhaglen Cartrefi Clyd newydd; gwahodd y deisebwyr a’r cynghorydd lleol sy’n cefnogi eu hymgyrch i ddod i gwrdd â’r Pwyllgor; ac ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn am gynnydd y gwaith adfer a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn sgil y camau hynny y cytunwyd arnynt, byddai'r Pwyllgor yn cadw'r ddeiseb ar agor.
Yn sgil Bil masnachfreinio bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb ar agor a pharhau i fonitro’r sefyllfa.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a pharhau i godi’r mater fel Aelodau unigol yn y Siambr.
Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am y cynnydd o ran gweithredu’r cynllun yng Nghymru. Ymrwymodd y Cadeirydd hefyd i godi'r mater yn y Siambr gyda'r Trefnydd o dan y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at yr Ysgrifennydd Cyllid i ganmol Llywodraeth Cymru am ariannu’r rhaglen cyhyd ag y gwnaeth, o ystyried nad yw plismona wedi’i ddatganoli, ond i dynnu sylw at y pryderon ynghylch plismona yng Nghymru a’r broses gynllunio ac ymgynghori. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i bwysleisio pwysigrwydd ariannu’r gwaith hwn yng Nghymru.
Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol gan ei fod yn adnabod y deisebydd dan sylw. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth i ofyn am ragor o fanylion am yr astudiaeth; a ellir darparu'r amserlenni ar gyfer ei gwblhau i'r gymuned ac i'r deisebydd; a eir ati i ymgynghori â’r cyhoedd, y deisebydd a’r cyngor cymuned fel rhan o’r astudiaeth; a fydd y canlyniadau/opsiynau a gaiff eu hystyried wedyn yn cael eu rhannu gyda nhw; ac a oes amserlen yn y pen draw ar gyfer gweithredu unrhyw argymhellion neu fesurau arfaethedig. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth aros am ymateb.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a gofyn am ddadl ynghylch y ddeiseb, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal y ddadl cyn gynted â phosibl, a nodi bod gwybodaeth newydd bellach ar gael yn dilyn dadl Heledd Fychan ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli, a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2024.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, ond cyn gwneud hynny i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog i ofyn am ymateb i gwestiynau diweddaraf y deisebydd. Byddai'r ymateb yn cael ei anfon at y deisebydd. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at Bencampwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer gwiwerod coch, Darren Millar AS; Alun Davies AS, a oedd wedi codi'r mater yn y Siambr; ac Aelodau Gogledd Cymru – yr ardal sydd â’r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch – i dynnu sylw at y ddeiseb er gwybodaeth iddynt.